•  

Croeso

i wefan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB)

Ein rôl yw helpu i wneud gwahanol sectorau amaethyddol a garddwriaethol o fewn y DU yn fwy effeithiol a chystadleuol.

Mae’n swyddogaethau statudol yn cwmpasu cig a da byw (gwartheg, defaid a moch) yn Lloegr; garddwriaeth, llaeth a thatws ym Mhrydain Fawr; grawnfwydydd a hadau olew yn y DU.

Mae gan AHDB chwe adran weithredu yn ôl y sector nwydd mae’n cynrychioli. Mae DairyCo, sy’n ymdrin â’r sector llaeth, wedi ymrwymo i gynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau yn y Gymraeg. Bydd gwybodaeth, deunydd a gwefannau o adrannau eraill yr AHDB ond yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg pan fo prosiectau arbennig ar y gweill sydd wedi eu hanelu at y cyhoedd yng Nghymru’n unig.

Mae gweddill y wefan hon yn y Saesneg, dilynwch y bar mordwyo ar y top i ganfod mwy.

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae’r AHDB wedi cyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg o dan Ddeddf Iaith 1993, sy’n amlinellu sut y bydd
yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir cael golwg ar y cynllun drwy
glicio yma.