AHDB Homepage – Welsh language

Ni yw’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).  Ein pwrpas yw ysbrydoli ffermwyr, tyfwyr a’r diwydiant i lwyddo mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Ni yw’r ffynhonnell annibynnol a ddefnyddir i gael gwybodaeth ddibynadwy ac ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  Rydym yn darparu’r diwydiant cyfan â gwybodaeth ymarferol a hwylus y gellir ei defnyddio ar unwaith i wneud penderfyniadau gwell a gwella perfformiad.

Mae ADHB yn fwrdd lefi statudol a ariannir gan ffermwyr, tyfwyr ac eraill sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi. Dysgwch mwy amdanon ni a’r gwaith a wnawn.

Mae gan AHDB chwe adran weithredu yn ôl y sector nwydd mae’n cynrychioli. Mae AHDB Llaeth, sy’n ymdrin â’r sector llaeth, wedi ymrwymo i gynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau yn y Gymraeg. Bydd gwybodaeth, deunydd a gwefannau o adrannau eraill yr AHDB ond yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg pan fo prosiectau arbennig ar y gweill sydd wedi eu hanelu at y cyhoedd yng Nghymru’n unig.

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae’r AHDB wedi cyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg o dan Ddeddf Iaith 1993, sy’n amlinellu sut y bydd yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gellir cael golwg ar y cynllun drwy glicio yma.

Mae gweddill y wefan hon yn y Saesneg, dilynwch y bar mordwyo ar y top i ganfod mwy.

×