Chwilio am ffermydd llaeth yng Nghymru ar gyfer rhaglen genedlaethol

Mae’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn chwilio am ffermydd llaeth yng Nghymru i ymuno â’i raglen Ffermydd Llaeth Strategol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi am dair blynedd a byddant yn cael y cyfle i gydweithio â thîm o arbenigwyr i sicrhau newid positif ar eu ffermydd.

Bydd grŵp llywio, yn cynnwys cynrychiolwyr AHDB, cyfoedion ac arbenigwyr o fewn y diwydiant yn cynnig rhwydwaith o gymorth, ac yn helpu i osod nodau a datblygu cynllun sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer pob fferm unigol.

Bydd profiadau’r ffermydd sy’n cymryd rhan yn cael eu rhannu â ffermwyr eraill, gan ganiatáu iddyn nhw ddysgu o’ch profiadau chi.

Anogir ffermwyr sydd â diddordeb mewn arloesi a rhannu arferion gorau, ac sy’n hyderus i gynnal digwyddiadau ar y fferm ac ar-lein i gysylltu.

Meddai Doreen Anderson, Uwch Reolwr Cyfnewid Gwybodaeth Sector Llaeth AHDB:

"Ein nod yw galluogi ffermwyr i archwilio syniadau newydd a chroesawu newid o fewn eu busnesau. Mae hwn yn gyfle gwych i gydweithio â ffermwyr lleol ac arbenigwyr y diwydiant i sicrhau newidiadau positif ar eich fferm."

Nod rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol AHDB yw cynyddu gwydnwch a gwella perfformiad busnesau ledled y diwydiant llaeth.

Mae’n cael ei harwain a’i hyrwyddo gan ffermwyr, ac mae’n arddangos arferion gorau ac arddangosiadau ymarferol i ddarparu ffermwyr â syniadau ar gyfer gwella eu ffermydd eu hunain.

Mae’r ffermydd sy’n rhan o’r rhaglen ar hyn o bryd yn cynnwys rhai gyda systemau lloia mewn bloc a thrwy’r flwyddyn gyfan, yn ogystal â rhai sy’n cadw’u stoc dan do neu allan yn pori y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Dywedodd Karen Halton o Chance Hall Farms, cyn ffermwr llaeth strategol:

"Roedd bod yn Fferm Laeth Strategol yn agor y drysau i arbenigwyr y diwydiant o bob rhan o’r byd, pobl na fyddem wedi llwyddo i’w cyrraedd ar ein pennau’n hunain i gael cyngor a gwybodaeth. Mae yna lawer i’w ddysgu hefyd o ddiwrnodau Taith Dywys o Amgylch Fferm, yn ogystal â’u bod nhw’n dysgu oddi wrthon ni.

"Fel busnes, mae wedi cael effaith bositif o ran newid a datblygu, ac mae wedi’n helpu ni i wneud penderfyniadau sy’n fwy seiliedig ar ddata.

"Yn bersonol, os ydyn ni, drwy arddangos a rhannu’n gwybodaeth, wedi dylanwadu ar ffermwyr eraill i wneud newidiadau positif i fywydau eu buchod, yna mae hwnna’n deimlad anhygoel.

"Mae wedi bod yn daith anhygoel i ni a’n busnes, y cyfan sydd ei angen yw cadw meddwl agored a gwneud y mwyaf o’r cyngor a’r help sydd ar gael."

Ymunwch â rhwydwaith AHDB o ffermwyr sy’n rhannu’r un meddylfryd ac sydd wedi ymrwymo i wella eu busnesau fferm. I fynegi’ch diddordeb mewn bod yn Fferm Laeth Strategol, cysylltwch â Jamie McCoy neu James Hague cyn Dydd Sul 30 Mehefin.

I gael gwybod mwy, ewch i ahdb.org.uk/farm-excellence/wales-strategic-dairy-farm-programme

Read this page in English

×