Sut i ddod yn Fferm Laeth Strategol

Cyfle i ddod yn Fferm Laeth Strategol a mynd â’ch busnes fferm i’r lefel nesaf.

Nod ein rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol yw cynyddu cadernid busnes a gwella perfformiad ar draws y diwydiant llaeth, gan arddangos sut y gellir gwneud hyn drwy fabwysiadu arferion gorau.

Beth yw fferm/ffermwr llaeth strategol?

Mae ffermwyr llaeth strategol yn agored eu meddwl, yn barod i dderbyn syniadau newydd, yn hapus i gael eu herio, ac yn fodlon croesawu newid. Maent ar siwrnai i wella eu busnes fferm a rhannu gwybodaeth a phenderfyniadau gydag eraill.

Maent yn gyfforddus bod eu stori’n cael ei hadrodd drwy nifer o sianeli cyfryngau gwahanol (print, digidol, cyfryngau cymdeithasol, podlediad ac ati).

Mae busnes Fferm Laeth Strategol yn un cyfrifol, sy’n gosod gwerth ar berfformio’n dda ar draws llu o feysydd gwahanol, gan gynnwys iechyd a lles anifeiliaid, atgynhyrchu a maeth, lletya a’r amgylchedd.

Pam ddyliwn i fod yn ffermwr llaeth strategol?

Fel ffermwr llaeth strategol, byddwch yn gweithio gyda thîm o arbenigwyr, yn cynnwys cyfoedion, ymchwilwyr ac ymgynghorwyr, i sicrhau newid positif ar eich fferm a’i arddangos ar gyfer y diwydiant.

Byddwn yn eich helpu i osod eich nodau, datblygu cynllun tair blynedd, a chreu targedau clir i’ch helpu i gyflawni hyn.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ffurfio grŵp llywio o gyfoedion a/neu arbenigwyr y diwydiant, a fydd yn darparu rhwydwaith o gymorth. Bydd y grŵp hwn yn eich herio i wneud newidiadau positif a gweithio tuag at eich nodau eich hun.

Byddwn yn rhannu eich stori, gan helpu i godi’ch proffil a sicrhau bod eraill yn gallu dysgu o’ch profiad, ac i hyrwyddo enw da’r diwydiant.

Beth fyddai angen i mi ei wneud yn gyfnewid am hynny?

  • Byddai angen ichi ymrwymo i gynnal dau ddigwyddiad ar gyfer y cyhoedd bob blwyddyn, a mynychu cyfarfodydd y grŵp llywio
  • Dylech fod yn gyfforddus yn siarad â chynulleidfa wyneb yn wyneb yn ogystal ag ar-lein
  • Bydd disgwyl ichi ddarparu astudiaethau achos a storïau, gan gynnwys cyfweliadau, fideos, lluniau, ac ati
  • Gall rhai Ffermydd Llaeth Strategol dderbyn ceisiadau gan grwpiau eraill i ymweld â’r fferm; nid yw hyn yn ofynnol fel rhan o’r rhaglen, ond mae’n gymorth i ni gael rhwydwaith o ffermydd y gallwn droi atynt i gynnal ymweliadau

Sut mae gwneud cais?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith a bod yn Ffermwr Llaeth Strategol, neu os hoffech chi wybod mwy am y rhaglen, cysylltwch â:

Image of staff member Jamie McCoy

Jamie McCoy

Senior Knowledge Exchange Manager - Dairy

See full bio

Image of staff member James Hague

James Hague

Knowledge Exchange Manager - Dairy

See full bio

Gwybodaeth bellach

Dysgwch fwy am y rhwydwaith Ffermydd Llaeth Strategol

Find out more about our Farm Excellence programme


×