Farmbench - Welsh language

FARMBENCH

Ni fydd Farmbench ar-lein o Hydref 1 i Hydref 31 tra’n bod ni’n diweddaru’r system.

Bydd y diweddariad wedi’i gwblhau erbyn Tachwedd 1 a bydd y nodweddion newydd a’r gwelliannau’n barod ichi eu mwynhau.

Mae nodweddion newydd a gwelliannau i Farmbench yn cynnwys:

  • Cyfrifyddion costau cynhyrchu llaeth a betys siwgr
  • Dulliau symlach o nodi data cig eidion a chig oen
  • Adroddiadau porthiant newydd
  • Gwerthusiad gwell o gostau storio a dyfrhau tatws
  • Mwy o hyblygrwydd wrth ddyrannu costau ar draws pob menter
  • Arf dangosydd perfformiad allweddol newydd – i fesur data perfformiad pob menter Farmbench, yn ogystal â phorc a garddwriaeth

Mae Farmbench yn eich helpu i ddeall a chymharu’ch costau cynhyrchu llawn ar gyfer y fenter.

Mae’n bwysicach nag erioed bod ffermwyr a thyfwyr yn cystadlu â’r gorau yn y byd, a rhan allweddol o fod yn gystadleuol yw rheoli’ch costau cynhyrchu.

Mae system Farmbench newydd AHDB yn caniatáu i gynhyrchwyr fewnbynnu data penodol am eu mentrau yn ôl eu hanghenion. Gellir rhannu costau rhwng mentrau cig eidion, cig oen, tatws a mentrau âr, gyda llaeth yn mynd ar-lein yn 2018.

Mae Farmbench yn un o’r arfau all eich helpu i reoli’ch gwydnwch yn erbyn risgiau ac ymdopi â marchnad anwadal. Mae ein diwydiant yn debygol o fod yn fwy agored o lawer i brisiau anwadal, newid yng ngwerth y bunt, a chyfnodau o dywydd garw, all effeithio ar wydnwch nifer o fusnesau fferm.

Mae’r arf deallus a hwylus hwn yn caniatáu ichi daflu goleuni ar y modd y gallwch fireinio’ch penderfyniadau busnes, gan ddarparu cymariaethau â’ch cyfoedion trwy gyfrwng data cronnol a dienw.

Dod o hyd i’ch cyswllt Famrbench lleol

Desg Gymorth 

F: 024 7647 8599

Arf busnes yw Farmbench ar gyfer mentrau Grawnfwyd a Hadau Olew, Tatws, a Chig Eidion a Chig Oen, sy’n caniatáu i ffermwyr nodi’u holl gostau ar un cynnig. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i gael gwell dealltwriaeth o gostau’r fferm gyfan, a data manwl am y mentrau.

Mae Farmbench yn caniatáu ichi werthuso perfformiad eich busnes trwy gymharu dangosyddion perfformiad a gytunwyd ymlaen llaw gyda grŵp o’ch cyfoedion. Mae nifer o ffermwyr yn gwneud hyn yn anffurfiol yn barod, trwy drafod maint cnydau a phrisiau cynnyrch gyda chynhyrchwyr eraill. Fodd bynnag, mae Farmbench yn caniatáu ichi archwilio effaith lawn y rhain ar elw’r busnes.

Nod pennaf Farmbench yw caniatáu i grwpiau drafod a rhannu arfer da ym mhob agwedd o’u busnesau, er mwyn gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella’u proffidioldeb.

Egwyddor sylfaenol meincnodi yw – os allwch chi ei fesur, gallwch ei reoli.

Yn fras, ceir tri chategori o ddangosyddion perfformiad:

  • Ariannol (e.e. gwerthiant, costau ac elw)
  • Technegol (e.e. defnydd o wrtaith neu gynnyrch iechyd anifeiliaid)
  • Cynnyrch (e.e. maint cnydau neu epil a werthwyd o bob anifail magu)

Gall AHDB roi adroddiad yn ôl i gynhyrchwyr ar ddata Farmbench mewn sawl ffordd wahanol.

  • Os ydych chi’n aelod o grŵp trafod neu grŵp monitro ffermydd, byddwch yn derbyn adroddiadau grŵp a gallwch gymryd rhan mewn cyfarfod adborth a drefnir gan eich Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a’ch Swyddog Meincnodi Rhanbarthol.
  • Bydd adroddiadau sector cenedlaethol AHDB (megis Stocktake) yn dal i gael eu cyhoeddi’n flynyddol hefyd, sy’n caniatáu i gynhyrchwyr gymharu’u ffigurau efo’r set ddata genedlaethol, sydd wedi’i grwpio’n traean uchaf, canol a gwaelod.
  • Yn hanfodol, bydd holl ddefnyddwyr Farmbench yn gallu gweld adroddiadau ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r wefan, i gymharu eu perfformiad yn erbyn o leiaf 15 o fusnesau tebyg ar gyfartaledd. Gallwch ddewis meini prawf gwahanol e.e. £ yr hectar, £ y kg/tunnell, £ y pen

Prif bwrpas y data yw galluogi AHDB i gynhyrchu ffigurau meincnodi er mwyn bwydo’n ôl i gynhyrchwyr trwy grwpiau trafod neu adroddiadau unigol.

Yn ogystal, mae AHDB yn defnyddio’r data cyfanredol i baratoi ei gyhoeddiadau cenedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth am y farchnad, megis yr adroddiad Stocktake blynyddol, ac fel sylfaen i’w argymhellion strategol ar gyfer y diwydiant. Ac eithrio mewn adroddiadau unigol ar gyfer defnyddwyr Farmbench, ni fydd AHDB yn arddangos eich data heb eich caniatâd penodol ar unrhyw adeg, ac mae’n aros yn ddienw neu’n rhan o sampl cyfanredol.

Bydd Farmbench yn eich galluogi i ganiatáu i’ch ‘ymgynghorydd’ gael mynediad i’ch data yn adran ‘fy musnesau i’ o’r wefan, cyn belled â’u bod yn ddefnyddwyr cofrestredig, gyda’r caniatâd cywir ar eu cyfrifon.

Bydd adroddiadau Cropbench+ hanesyddol yn cael eu trosglwyddo i Farmbench, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gymharu’u perfformiad yn erbyn blynyddoedd blaenorol, ond am fod Farmbench yn gweithredu ar lefel fanylach, mae’n bosib na fydd modd cymharu’n union.

Dylech drafod unrhyw fynediad pellach sydd ei angen arnoch gyda’ch Swyddog Meincnodi Rhanbarthol.

Bydd y data sydd yn Cropbench a Stocktake yn cael ei gadw gan AHDB, a gallwch weld yr hen gofnodion o hyd trwy eich Swyddog Rhanbarthol.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am feincnodi AHDB neu’r system Farmbench, cysylltwch â’ch Swyddog Meincnodi neu’ch Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth

Unwaith eich bod wedi cofrestru cyfrif ar Farmbench, gallwch ddarparu’ch data a gweld eich adroddiadau. Gallwch hefyd roi cynnig ar y canlynol:

  • Cymryd rhan mewn grŵp trafod neu grŵp monitro ffermydd yn eich ymyl chi
  • Mynychu digwyddiad AHDB sy’n canolbwyntio ar bwnc arbennig rydych am ei wella
  • Gwneud defnydd o arf cyllidebu Farmbench i osod amcanion ar gyfer perfformiad eich busnes yn y dyfodol

Mae’r dull fferm gyfan a ddefnyddir gan Farmbench yn gwneud hi’n haws o lawer dyrannu 100 y cant o’ch costau sefydlog. Mae’r system yn fwy greddfol ac yn haws o lawer i ffermwyr ei defnyddio na’n harfau blaenorol, ac mae’n caniatáu i ffermwyr a thyfwyr i berchnogi’u data er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a chael canlyniadau.

Rydych chi’n gwybod beth yw eich costau, mae hynny’n ddechrau da. Ond, sut ydych chi’n cymharu â’ch cyfoedion neu’r gystadleuaeth ar lefel ryngwladol?

Trafod a dysgu o fewn grŵp o gyfoedion yw egwyddor allweddol meincnodi. Archwilio’r manylion a threiddio’n ddyfnach i’r hyn sydd y tu ôl i’r ffigurau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddeall beth yw’r arfer gorau go iawn.

Mae ffurflen awdurdodi data’n cael ei llofnodi rhwng AHDB a’r ffermwr. Rydym yn dilyn y rheolau amddiffyn data llym. Ni fydd eich data personol byth yn cael ei rannu, ac nid yw adroddiadau grwpiau’n cynnwys meysydd sensitif megis rhenti a chyllid/benthyciadau.

Mae Farmbench yn ymwneud â chraffu ar, a mireinio costau cynhyrchu unigolion er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol fel busnes cynaliadwy.

Weithiau bydd y rhain yn dipyn o ergyd. Yn aml byddant yn gymorth i wneud cynlluniau olyniaeth a phenderfyniadau hanfodol ar gyfer holl aelodau’r teulu sy’n rhan o’r busnes ffermio.

Oni bai ein bod ni fel diwydiant yn gallu cydnabod ein cryfderau a’n gwendidau, ni allwn wella a datblygu. Mae ein gallu i fod yn gystadleuol a symud ymlaen yn bwysicach o lawer i’n henw da.

Yr unig ffordd y byddech yn cael eich diarddel fyddai petaech chi’n anonest am eich costau. Os ydy’r ffigurau’n amlygu costau uchel y gellir eu lleihau, yna gall hynny ond fod yn beth manteisiol i chi a’ch busnes.

Mae’r rheolau’n cael eu diffinio gan y grŵp, gyda chydsyniad yr aelodau unigol o’r dechrau. Rydym yn cynghori na ddylai gwybodaeth fasnachol sensitif benodol megis contractau a rhenti gael ei rhannu na’i thrafod o fewn y grŵp.

Mae Farmbench yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio fel rhan o’ch lefi, ac mae’n arf dadansoddi a chymharu costau yn hytrach na phecyn cyfrifon neu reolaeth. Y gwerth ychwanegol yw’r trafodaethau a’r rhyngweithio fel grŵp. Mi fyddwch yn cael cymorth penodol gan hwyluswyr ADHB, wedi’i drefnu dros nifer o sesiynau, fel rhan o’r gwelliant parhaus.

Yn anffodus, nid yw grwpiau trafod yn apelio at bawb. Mae’r fformat hwn yn gweithio ar sail ymddiriedaeth, dysgu agored a rhannu profiadau. Rhaid bod yna roi a derbyn.

Gwyliwch ein straeon fideo gan ffermwyr i gael mwy o wybodaeth ar sut y gall Farmbench eich helpu chi a’ch busnes i dyfu.

Mae Farmbench ar gael i’w ddefnyddio gan unrhyw un yn y byd, ond nid yw’n cael ei gefnogi gan AHDB y tu allan i’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml:

×